
Gwella Organau Trawsblannu
Mae'r amser rhwng adfer organ i'w drawsblannu a thrawsblannu'r organ hwnnw wedi'i gyfyngu gan yr amser y bydd yr organ yn parhau'n hyfyw.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, rhaid asesu addasrwydd yr organ i gael ei ddefnyddio; mae'n niweidiol i'r derbynnydd os trawsblannir organ afiach, neu un sy'n cydweddu'n wael.
Rhaid cwblhau'r profion hyn a thrawsblannu'r organ i'r derbynnydd mwyaf addas tra bo'r organ yn parhau'n hyfyw.
Ar hyn o bryd, caiff nifer o organau eu gwrthod oherwydd na ellir eu hasesu na'u cydweddu yn yr amser sydd ar gael.
Mae Haemaflow yn meddu ar dechnoleg a allai gynnal organau trawsblannu mewn cyflwr hyfyw am fwy o amser, gan felly alluogi iddynt gael eu hasesu'n well a'u cydweddu'n well â'r derbynnydd cywir. Ar yr un pryd, bydd y dechnoleg yn galluogi i'r trawsblaniad gael ei gynnal yn ystod oriau dydd arferol, pan fo holl gyfleusterau cymorth yr ysbyty ar gael.