
Trallwyso Gwaed
Mae Haemaflow wedi gwneud gwaith ymchwil ar drallwyso gwaed er 2011. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym wedi dangos bod newidiadau cyflym yn digwydd yng nghyfansoddiad y gwaed cadw, ac, yn achos nifer o'r cydrannau, mae dros hanner y newidiadau yn digwydd yn ystod y pum niwrnod cyntaf.
Yn achos rhai cydrannau, gall y newidiadau fod yn ddramatig. Er enghraifft, mae crynodiad arferol y potasiwm yn y gwaed yn 5 mmol/litr, yn fras. Gall crynodiadau uwchlaw 7 mmol/litr fod yn angheuol. Mewn rhai samplau o waed trallwyso cadw, mae crynodiadau'r potasiwm yn uwch nag 20 mmol/litr. Pan fydd y gwaed yn cael ei drallwyso i mewn i bobl iach, bydd yr afu a'r arennau yn gwaredu halogyddion o'r fath cyn i unrhyw niwed ddigwydd.
Fodd bynnag, yn achos pobl sâl, mae'r afu a'r arennau eisoes yn gweithio'n galed i gynnal cyfansoddiad y gwaed. Yn achos cleifion o'r fath, gall gwaed hynod o halogedig niweidio'r organau wrth gael ei drallwyso, gan beri i'r claf fod yn agored i glefydau sy'n amrywio o niwmonia i septisemia.
Mae astudiaethau a gynhaliwyd ar lygod wedi dangos bod y risg o ddatblygu niwmonia yn cynyddu gydag oed y gwaed, ac mae treialon ar bobl wedi dangos bod y risg o septisemia yn cynyddu'n gyson gydag oed y gwaed.
O ganlyniad, mae yna ddiddordeb cynyddol mewn gwella ansawdd y gwaed cadw i'w ddefnyddio mewn trallwysiadau. Rydym wedi datblygu dyfeisiau ar gyfer gwaredu neu leihau yr halogyddion hyn, ac ar gyfer adfer y cyfansoddiad fel ei fod yn nes at gyfansoddiad gwaed rhydwelïol ffres. Mae'r dyfeisiau yn fach ac yn syml, heb unrhyw rannau symudol. Mae'r ffigur yn dangos dyfais brototeip o'r fath.
Fel dewis amgen ar gyfer gwella ansawdd gwaed cadw, rydym wedi archwilio'r posibilrwydd o leihau cyfradd dirywio gwaed trallwyso cadw. Ar yr un pryd, rydym wedi bod yn cynnal profion i leihau'r angen i ddefnyddio PVC wedi'i blastigo â Deu-(2-ethylhecsyl) ffthalad (DEHP) ar gyfer bagiau gwaed.
Mewn treialon ar anifeiliaid, darganfuwyd bod DEHP yn achosi namau geni a chanser, ac mae bellach wedi'i wahardd rhag cael ei ddefnyddio, ac eithrio mewn dyfeisiau meddygol. Caiff ei ddefnyddio mewn bagiau gwaed gan ei fod yn gwneud y bagiau yn fwy hyblyg, a hefyd am ei fod yn trwytholchi o'r bag i mewn i'r gwaed, lle mae'n tryledu i'r celloedd coch ac yn lleihau eu tueddiad i dorri wrth gael eu storio.